
#Bwyd
Wyau Crib
Perffaith ar gyfer picnic

Wyau Crib
1 Nionyn Coch
6 Selsig
1 llwy bach o Fwstard ‘Wholegrain’
3 tafell o Fara (handi er mwyn defnyddio’r crystie)
4 Wŷ mawr
1 Wŷ bach
3 llwy fwrdd o Olew
Mewn sospan rho ddŵr oer a rho 5 o’r wyau i fewn. Arhosa nes bod y dŵr yn berwi wedyn amsera 5 munud.
Torra y nionyn yn fan a’i roi mewn padell ffrio, a’i goginio nes ei fod yn feddal.
Ar ôl i bum munud basio gwaga y dŵr berwedig or sospan a rho dŵr oer drost yr wyau.
Mewn powlen ar wahan rho y nionyn a’r mwstard. Tynna y croen i ffwrdd o’r selsig er mwyn cael y cig yn unig. Cymysga popeth yn dda.
Mewn ‘blender’ rho y tafelli o fara er mwyn ffurfio darnau bach o fara, a’i roi mewn powlen.
Mewn powlen torra y wŷ sydd ar ôl ai gymysgu’n dda hefo fforcen.
Ar ôl i ti dynnu y plisgyn i ffwrdd o’r wyau yn ofalus rho ychydig o’r gymysgedd selsig o’i gwmpas gan ffurfio pelen(gan sicrhau fod gennyt ddigon o gymysgedd i orchuddio pump wŷ).
Wedi i ti orchuddio yr wyau rho fo i fewn yn yr wŷ amrwd a’i orchuddio’n dda, ond gna’n siwr nad oes gormod o wŷ amrwd arno. Wedyn syma yn dy flaen i roi y belen yn y bara mân.
Rho y pum wy crib ar hambwrdd a’i roi yn y oergell am 20 munud.
Cynhesa y popty i 190oC. Mewn padell twfn rho 3 llwy fwrdd o olew a rho y peli i fewn pan ma’r olew yn boeth. Ffria nes fod y crwst wedi crasu.
Rho’r wyau crib yn y popty am 12 munud. Mwynha hefo ‘chydig o ‘chutney’.
#Bwyd #WythnosCenedlaetholPicnic #EdwardsofConwy #WelshLady #WyauCrib