• #Bwyd

Ramen Cyflym Cyw Iâr

Updated: Oct 11, 2018

Mentrwch i ddefnyddio chopsticks...


Ramen Cyw Iâr Cyflym

  • 4 cwpan o Ddŵr berwedig

  • Stoc Cyw Iâr

  • Ychydig o Goriander ffres

  • 6-7 o Fadarch

  • 2 Frest Cyw Iâr wedi ei goginio’n barod

  • 1 clof o Arlleg (wedi ei dorri’n fân)

  • 2-3 sleisen o Sinsir ffres (wedi ei dorri’n fân)

  • 4 Nionyn y Gwanwyn (Spring Onion)

  • Halen a Pupur

  • 2 lwy bwdin o Saws Soy

  • Ychydig o Chilli (maint, yn ôl eich dewis)

  • 150-250g o Nwdls, sydd yn barod i fynd yn syth i’r Wok

  1. Mewn sosban rhowch y dŵr berwedig, coriander (wedi ei dorri yn fân), chilli, garlleg, sinsir a’r saws soy a’r stoc cyw iâr a’i adael i ferwi am o ddeutu 5 munud.

  2. Torwch y madarch, cyw iâr a nionod y gwanwyn a’u hychwanegu i’r sospon, a’i ferwi am 5 munud.

  3. Ychwanegwch y nwdls a’u brewi am 2 funud (neu yn ôl y cyfarwyddiadau sydd sydd ar y paced)

  4. Rhowch y nwdls mewn powlen - a’i fwynhau! Os ydych eisiau mentrwch i ddefnyddio ‘chopsticks’.

#Mwynha #Bwyd #RamenCywIar #Chopsticks


1 view

CYSYLLTU

 

bwyd.cadi@gmail.com

 

©2023 by Gelato. Proudly created with Wix.com

TANYSGRIFIWCH I DDERBYN E-BYST A NEWYDDION DIWEDDARAF