- #Bwyd
Pysgodyn a Sglodion
Hen ffefryn wedi ei wneud yn iachus

Pysgodyn a Sglodion
1 Taten Melys Mawr (neu dwy daten bach)
Olew
2 llwy bwdin o Iogwrt Naturiol Llaeth y Llan
Gronnynau Garlleg
1 clof o Arlleg
Sudd lemon
1 llwy de o Deim (Thyme)
2 ddarn o Benfras (Cod)
Digon o Bys i ddau
1 llwy de o Fenyn
Cynhesa y popty i 200oC. Torra y tatws i fewn i siap sglodion a’i roi mewn tin gyda olew, halen, pupur a gronnynau garlleg a’i roi yn y popty.
Ar ôl i o ddeutu chwarter awr basio rho y pysgodyn, hefo ‘chydig o halen, pupur a gwasgiad o sudd lemon, mewn tin ar wahan a’i roi yn y popty.
Mewn powlen cymysga y iogwrt, gronnynau garlleg, garlleg ffres (wedi ei dorri’n fan iawn, halen, pupur a teim. (Sicrha nad wyt ti’n rhoi gormod o arlleg drwy ei flasu wrth i ti fynd yn dy flaen).
Berwa tegell a rho’r dŵr berwedig i fewn yn y sospan hefo’r pys. Wedi tua 6 munud basio tynna’r pys i ffwrdd o’r gwres a cael gwared o’r dŵr. Rho llwy de o fenyn i fewn yn y sospan a defnyddia stwnshwr tatws er mwyn malu y pys.
Ar ôl i’r pysgodyn fod i fewn am 15 munud dylai bopeth fod yn barod i’w weini. Gweina y bwyd ar blat a mwynha dy bysgod a sglodion.