
#Bwyd
Pitsa Cyflym
Yn barod mewn 15 munud - y Bwyd Brys perffaith

Pitsa Cyflym
Cynhwysion
- 2 wrap (tortilla)
- Piwrî Tomato
- Llysiau a Chig o’ch Dewis
Tip Nadoligaidd: I wneud y pitsa yn Nadoligaidd elli di ddefnyddio’r llysiau sbâr o’r cinio 'dolig. Elli di hyd yn oed ychwanegu saws llugaeron (cranberry) ar ôl i’r pitsa fod yn y popty.
Dull
1. Rho un tortilla ar ‘tray’. Rho ychydig o ddŵr ar y tortilla cyn rhoi'r ail tortilla ar i ben - dylai'r dŵr ymddwyn fel glud.
2. Cynhesa'r popty i 180oC.
3. Gwasgara piwrî tomato ar y tortilla.
4. Dewisa dy lysiau i roi ar ben y pitsa a’u coginio nes eu bod yn feddal - rho y llysiau ar y pitsa.
5. Gratia caws a’i ychwanegu at y pitsa.
6. Rho’r pitsa yn y popty am 5 munud - neu nes bod y caws wedi meddalu.