- #Bwyd
Pei Cyw IâR a Cennin
Bwyd cartref blasus!

Pei Cyw Iâr a Cennin
Cynhwysion (digon i bedwar)
- 3 brest Cyw Iâr
- 2 Gennin
- Chydig o Fenyn
- Hanner paced o Fadarch (mushrooms)
- Llwy de o Fwstard
- 2 lwy bwdin o Flawd Plaen
- 600ml o Lefrith
- 300g o Gaws
- Puff Pastry wedi ei wneud yn barod (digon mawr i orchuddio y tin)
Dull
1. Cynhesa y popty i 200oC.
2. Mewn padell, ffria y cyw iâr mewn padell ffrio a’i roi i un ochr ar ôl iddo frownio.
3. Ffria y cennin hefo ‘chydig o fenyn a halen a pupur a’i roi i un ochr pan yn barod.
4. Yn ola’ ffria y madarch a pan yn barod rho y blawd yn y badell hefo ychydig o’r llefrith.
5. Dylai y llefrith ddechrau twchu (mynd yn fwy trwchus) felly ychwanega llefrith bob yn dipyn nes ei fod yn cyrraedd y tewder tisio dy saws fod.
6. Ychwanega y mwstard a’r caws at y saws a halen a pupur.
7. Rho y cennin a’r cyw iâr yn ôl yn y badell at y saws a’r madarch a gorchuddio popeth hefo’r saws.
8. Mewn tin (neu ar blat metal sydd yn gallu mynd i fewn i’r popty) rho y llenwad yn y tin.
9. Rholia allan y pastry a’i osod ar ben y tin a gwasga’r ochrau hefo fforcen a gwna groes yn y canol er mwyn gadael i stem i godi allan.
10. Dorra yn y popty am tua 30 munud neu nes fod y pastry wedi brownio a wedi codi ychydig. Elli di weini y pei hefo ‘chydig o bys a chips os ti ffansi. Mwynha!