
#Bwyd
Myffins Mafon a Siocled Gwyn

Myffins Mafon a Siocled Gwyn (digon i wneud 12)
300g Blawd Plaen
2 llwy de o Bowdr Pobi
150g Siwgr Caster
1 Wy
1 llwy de o ‘Extract’ Fanila
225ml o Lefrith
50g o Fenyn
Tua 100g o Fafon
Tua 200g o ddarnau o Siocled Gwyn
Cynhesa y popty i 200oC, a rho y caseni myffin i fewn i din priodol.
Torra y mafon yn eu hanner.
Rho y blawd, siwgr a’r powdr pobi i fewn i fowlen gan ddefnyddio rhidyll.
Todda y menyn men meicrodon am 30 eiliad.
Mewn powlen arall cracia yr wy ac ychwanega lefrith, ‘extract’ Fanila a’r menyn wedi toddi.
Ychwanega y gymysgedd gwlyb i fewn i’r gymysgedd sych.
Ychwanega y mafon a’r darnau o siocled gwyn.
Rho’r gymysgedd i fewn i’r caseni. Coginia am o ddeutu 30 munud nes eu bod wedi coginio drwyddo.