
#Bwyd
Madarch Garlleg a'r Dost
Sgynnai'm mush-room am fwy

Madarch ar Dost
2 dafell o Fara
Llond llaw o Fadarch
2 Wŷ
35g o Gaws Garlleg
Tua 60ml o Lefrith
Ychydig o Fenyn er mwyn ffrio
Torra y madarch yn ddarnau llai a’i roi mewn padell ffrio hefo ‘chydig o fenyn.
Wedi i’r madarch goginio ychwanega y caws a’r llefrith (digon i wneud ychydig o saws) a’i adael i goginio.
Mewn sospan ychwanega ddŵr berwedig, a’i roi ar y gwres. Cracia’r wyau i fewn i’r dŵr, a’u coginio am 2 funud.
Tostia y bara.
Gweina popeth a mwynha!