
#Bwyd
Linguine Pysgod Môr
Bwyd tramor yng nghymru

Linguine Bwyd Môr
(Digon ar gyfer 2)
1/2 Nionyn Coch, wedi ei dorri’n fan
1 tin o Domatos wedi’u torri
1 clof o Arlleg
70g o Chorizo
2 llwy de o Basil ffres wedi ei dorri
1 llwy bwdin o Siwgr Brown
500g o Gregyn Gleision (Mussels) (yn barod i’w berwi mewn bag a saws garlleg)
150g o Gorgimychiaid amrwd (Prawns)
200g o Gocos, wedi eu coginio yn barod (opsiynol) (Cockles)
Digon o Spagetti ar gyfer dau
Mewn padell ffrio, ffria y nionyn a’r garlleg. Ar ôl i’r nionyn feddalu ychwanega y chorizo.
Mewn sospan hefo dŵr berwedig, ychwanega y cregyn gleision yn eu bag, a dilyn y cyfarwyddiadau coginio sydd ar y paced.
Yn y padell ffrio ychwanega y gorgymychiaid os ydynt yn amrwd, nes eu bod wedi troi o liw llwyd i binc. Wedi i’r gorgimychiaid goginio ychwanega y tin o domatos, basil a’r siwgr brown. Paid a taflu tin y tomatos a ychwanega ddŵr poeth hyr at hanner ffordd, cyn ei ychwanegu at y saws.
Berwa digon o sgabetti ar gyfer dau mewn sospan ar wahan.
Ar ôl i’r cregyn gleision goginio ychwanega y cregyn, heb y saws, i fewn i’r saws tomato. Bob ychydig, ychwanega y saws o’r cregyn glesion, gan neud yn sir nad ydy’r saws yn mynd yn ormodol o denau. Ychwanega y cocos.
Gweina popeth a mwynha!