
#Bwyd
Hash Tatws
Y pryd perffaith pan mai'n bach yn fuan ar gyfer cinio ond ti di codi rhu hwyr am frecwast...
Hash Tatws🥓🥔🍽🍳

Cynhwysion
* Oel i ffrio
* 1 Nionyn bach
* 2 Clove o Garlleg
* 2 neu 3 darn o Facwn
* 1/2 ‘Sweet Potato’ mawr [wedi torri i giwbiau 2cm]
* 1 Taten mawr [wedi torri i giwbiau 2cm]
* 2 Wŷ
* Bach o Gaws di gratio
* Bach o Parley (os ti’n teimlo’n ffansi)
* Paprkia a halen a pupur
Dull
1. Cynhesu’r popty i 210oC neu 190oC fan.
2. Chydig o olew mewn padell ffrio sydd yn gallu mynd i fewn i’r popty (hefo handlen metal - os sgynno ti ddim un defnyddia padell arferol a wedyn ffrio y wyau arwahan). Ychwanega y nionyn a garlleg wedyn y bacwn am rw 5-10 munud. Cyn eu tynnu allan or badell a’u rhoi i un ochr.
3. Yn yr un badell ffria y ddau fath o datws am 15-20 munud tan bo nw wedi meddalu a mynd yn ‘crisp’. Wedyn ychwanegu y cymysgedd nionyn yn nôl i fewn i’r badell.
4. Ychwanega Paprika a halen a pupur. Gan ddefnyddio cefn llwy gwna dau bant yn y gymysgedd a cracio’r wyau i fewn i’r pantiau.
5. Rho y badell yn y popty am o ddeutu 5 munud tan mae’r gwyn wŷ wedi goginio. Ychwanega gaws o ddeutu 1 munud cyn ei dynnu allan.
6. Gwasgara parsley ar y top i weini.
Mwynha 😋