
#Bwyd
Ffordd Creigiog...
Rhein pethau yn well heb eu cyfieithu yn dydyn... Rocky Road ar gyfer y diwrnodau lle ti'n haeddu 'treat'!

Rocky Road Cream Egg
- 10 Mini Cream Eggs (wedi torri yn hanner)
- 150g Bisgedi Rich Tea neu Digestive (wedi malu)
- 400g o Milk Chocolate
- 140g o Fenyn
- 3tbsp o Syrup Aur (Golden Syrup)
- 50g o Marshmallows
- 1 Paced o ‘Mini Eggs’
1. Torra y ‘Cream Eggs’ yn eu hanner.
2. Rho y bisgedi mewn bag plastic a wedyn mala y bisgedi hefo rholbren.
3. Mewn sospan rho y siocled, menyn a syrup a’i doddi dros dymheredd canolig.
4. Dyro o ddeutu 200ml o’r gymysgedd yn y sospan i un ochr.
5. Yn yr hanner arall cymysga fewn y bisgedi. Ychwanega y marshmallows a’r ‘Mini Eggs’.
6. Leinia tin rhostio hefo papur ’greasproof’ a rho’r gymysgedd yn y tin a’i wasgaru.
7. Tywallta gweddill y siocled ar dop y gymysgedd a wedyn gosoda y hanneri ‘cream eggs’ ar y top.
8. Rho y gymysgedd yn yr oergell am ‘chydig o oriau (neu tan dwyt ti’m yn gallu diodde aros dim mwy)