
#Bwyd
Eog ddim Euog...
Ma'n bwysig cal omega 3 dydy... be ffordd well na Eog (Salmon) hefo llysiau rhôst a pesto.

Cynhwysion (digon ar gyfer 1)
- 5 Taten Bach
- 3 ‘clove’ o Arlleg
- ‘Chydig o Fenyn
- 1/2 Pupur
- 1 Lemon
- 1/2 Nionyn Coch
- Tua 4 Tomato Bach
- 1 Darn o Eog (Salmon)
- ‘Chydig o Pesto Gwyrdd
Dull
1. Gwna barsel allan o ffoil a rho y tatws, 1 ‘clove’ o arlleg a ‘chydig o fenyn i fewn iddo. Rho’r parsel mewn tin rhostio a’i roi yn y popty ar dymheredd o 200oC a gosoda amserydd am 20 munud.
2. Torra’r pupur a’r nionyn i fewn i ‘wedges’ a torra y tomtato yn ei hanner. Rho y llysiau yn y tin rhostio at y tatws a’u rhoi yn nôl yn y popty a gosod amserydd am 10 mund.
3. Ar ol i 10 munud basio rho y parsel eog i fewn i’r tin rhostio. Y parsel eog fydd y eog mewn foil hefo pesto a lemon ar ei ben. Gosoda’ amserydd am 15 mund arall.
4. Tynna popeth allan o’r popty a mwynha!