
#Bwyd
Eog- Cinio Cyflym
Cinio ysgafn i fwynhau yn yr haul ☀️🐟🌱

Cynhwysion
(Digon ar gyfer 2)
2 ddarn o Eog 🐟
1 Courgette
1 Nionyn Coch
2 lond llaw o Sbigoglys
Ychydig i Balsamig
Olew olewydd
Dull
Torra y nionyn i fewn i sdribedi a’i roi mewn padell ffrio hefo olew ar dymheredd isel.
Gan ddefnyddio piliwr llysiau gwna sdribedi o courgette gan dynnu ar hyd y courgette.
Rho y courgette yn yr un badell a’r nionyn ar dymheredd isel hefo ‘chydig o arlleg arno. Pan maen’t wedi coginio tynna nw allan o’r badell a’u rhoi i un ochr.
Yn olaf, rho y eog yn y badell tan ei fod wedi cogino.
Gweina popeth a mwynha yn yr haul tra mae o yma!