
#Bwyd
Empanadas Cennin a Chig Oen
Twist a’r glasur o Batagonia er mwyn dathlu Dydd Gwyl Dewi ledled y Byd - Empanadas Cennin a Cig Oen

Cynhwysion
1 Cennin
1 Nionyn
500g o briwgig (mince) Cig Oen
1 llwy de o Fwstard Wholegrain
Halen a Pupur
Ciwb Stoc Cig Eidion
Gronynau Grefi
250g o Grwst Pwff
Dull
Torra y nionyn a’i roi mewn padell ffrio ar dymheredd canolig.
Wedi i’r nionyn goginio ychwanega y briwgig tan ei fod wedi coginio cyn ychwanegu y cennin wedi dorri.
Ychwanega y mwstard, halen a pupur, ciwb stoc a’r gronnynau grefi i fewn i’r badell hefo ychydig o ddŵr, a’i adael ar y gwres am ‘chydig.
Rholia allan y crŵst a’i dorri’r siap tisio, gan gofio torri dau hanner (un ar gyfer y top a’r llall ar gyfer y gwaelod).
Llenwa un hanner y crwst hefo’r llenwad cyn rhoi’r caead ar ei ben gan ddefnyddio wŷ i’w selio.
Lledaena wŷ dros’ dop yr empanada gan ddefnyddio brws (neu cefn llwy)
Rho’r empanadas yn y popty am o ddeutu 20 mund neu nes eu bod nhw wedi brownio.