- #Bwyd
Cyw Iâr A Llysiau Rhôst
Awydd swper hawdd a blasus? Dyma’r boi- Swper Cyw Iâr a Llysiau Rhôst 🍗🥕🥔🍅🍴

Cynhwysion
1 darn o Gyw Iâr
5 Taten bach
1 Moronen
Hanner Pupur Coch
Ychydig o Chorizo
Hanner Nionyn Coch
Hanner tin o Domatos
Llwy bwdin o Siwgr
Rhosmari
Garlleg
Dull
Torra y tatws yn eu hanner a seleisa’r moron cyn eu rhoi men tin hefo halen, pupur, rhosmari, garlleg a oel. Rho’r tin yn y popty ar dymheredd o 220oC.
Ar ôl tua 20 munud ychwanega’r cyw iâr ar ben y llysiau yn ogystal a’r chorizo a’r ‘wedges’ o bupur a nionyn a’i roi yn ôl yn y popty am 15 munud ychwanegol.
Wedi i’r llysiau goginio ychwanega y hanner tin o domatos a llwy bodin o siwgr a’i roi yn ol yn y popty am tua 5-10 munud.
Mwynha!
19 views0 comments