• #Bwyd

Cyri Lentil, Mango A Tatws Melys

Sbeisia dy ddwrnod 🔥💥☄️




Cynhwysion

  • 1 llwy bwdin o Oel

  • 1 Nionyn, wedi torri’n fân

  • 1 llwy de o Coriander

  • 1 llwy de o Cumin

  • 1 llwy de o Turmeric

  • 1/2 llwy de o Cayenne Pepper

  • 400g o ‘Butternut Squash’ wedi ei dorri i fewn i ddarnau 2cm

  • Tin 400g o Tomatos wedi torri

  • 1.2l o Stoc Cyw Iâr

  • 1 llwy bwdin o Gatwad (chutney) Mango

  • 300g o Lentils Coch

  • Coriander

  • Bara Naan

Dull

  1. Mewn padell ffrio rho i fewn nionyn a’r garlleg a’i ffrio am tua 5 munud. Ychwanega y sbeisys a’r Butternut Squash a’i adael i ffrio am o ddeutu 10 munud.

  2. Ychwanega y tin o domatos, stock a’r catwad cyn ychwanegu halen a pupur, a’i adael i ffrwtian am 10 munud.

  3. Ar ôl i 10 munud basio ychwanega y lentils a’i simran am 20 munud neu nes mae’r lentils a’r sgwash yn feddal. Ychwanega y coriander a’i weini hefo bara naan.

#SbeisiaDyDdiwrnod #Bwyd #Mwynha #ButternutSquash

4 views

CYSYLLTU

 

bwyd.cadi@gmail.com

 

©2023 by Gelato. Proudly created with Wix.com

TANYSGRIFIWCH I DDERBYN E-BYST A NEWYDDION DIWEDDARAF