- #Bwyd
Cwcis Siocled
Glywoch chi rysait Cwcis Siocled ar raglen Crac y Wawr bore 'ma ar Express Radio? ☀️ Dyma’r ryseit i chi gael eu trio! Cwcis i fwynhau hefo paned o de a blanced (rysait hanner awr!) ❄️☕️🍪

Cynhwysion
- 200g o Fenyn (wedi meddalu)
- 300g o Siwgr Castr
- 1 Wy
- 275g o Flawd Codi
- 75g o Flawd Coco
- Ychydig o Lefrith (neu Laeth!)
- Bar mawr o Siocled Brown (Milk)
- Bar mawr o Siocled Gwyn
Dull
1. Cynhesa’r popty i 200oC.
2. Cymysga'r menyn a’r siwgr yn dda.
3. Ychwanega’r wy a’i gymysgu’n dda.
4. Cymysga i mewn yr holl gynhwysion sych eraill.
5. Ychwanega dim ond ‘chydig o lefrith er mwyn llacio’r gymysgedd.
6. Torra fyny'r siocled i mewn i’w sgwariau a’i gymysgu’n dda gan ddefnyddio dy ddwylo.
7. Ffurfia peli o ddeutu 5cm mewn diamedr a’u rhoi ar ddau ‘tray’ hefo papur gwrthsaim arnynt.
8. Rho'r cwcis yn y popty am 10 munud (pan fydd y cwcis yn dod allan ni fydden nhw’n edrych fel eu bod wedi coginio)
9. Mwynha!!
#Bwyd #Mwynha #Nadolig #Cwcis #Siocled #CracYWawr #ExpressRadio