
#Bwyd
Crempogau Americanaidd
MAI'N DDIWRNOD CREMPOOOOOG... unig adeg o'r flwyddyn lle ma'n dderbyniol i fwyta crempogau i frecwast, cino a swper felly cer yn wyllt!

Crempog Americanaidd
Cynhwysion
- 135g/4¾oz o Flawd Plaen
- 1 llwy de o Bowdr Pobi (Baking Powder)
- ½ llwy de o Halen
- 2 llwy bwdin o Siwgr Caster
- 130ml/4½fl oz Llefrith
- 1 Wŷ mawr, wedi guro
- 2 tbsp o fenyn wedi doddi neu olive oil
- Ychwanegiadau i fynd hefo dy grempog
Dull
1. Cymysga yr holl gynhwysion mewn bowlen a’i gymysgu’n dda.
2. Rho y menyn mewn padell ffrio ar dymheredd canolig.
3. Ffria y gymysgedd a fflipia y crempog os ti’n teimlo’n ddewr!
4. Gwna’n siwr dy fod wedi paratoi unrhyw ychwanegiadau i fynd hefo dy grempog.