- #Bwyd
Cawl Chickpea, Tatws Melys a Moron
Updated: Oct 14, 2018
Cino hawdd tra'n gweithio.. Cawl Chickpea, Tatws Melys a Moron

Cynhwysion
- 1 tin o ‘Chickpeas’
- Halen a Pupur
- 350g o Datws Melys
- 250g o Foron
- 1 Nionyn Coch
- 2 clof o Arlleg
- 2tsp o Baprika
- 1tsp o Cumin
- Stoc Cyw Iâr
- 400ml o Ddŵr berwedig
Dull
1. Mewn tin rhostio rho y nionyn, tatws melys, garlleg a moron hefo ‘chydig o olew a’i roi yn y popty ar dymheredd o 200oC am o ddeutu 30 munud.
2. Rho y llysiau I fewn I sosbon a’i osod ar dymheredd canolig ag ychwanega y stoc cyw iâr a’r dŵr berwedig.
3. Ar ôl ychydig o amser tynna y sosbon i ffwrdd o’r gwres a defyddia ‘blender’ er mwyn creu cawl llyfn.
4. Mwynha! (Elli di rannu y cawl rhwng gwahanol gynhwysyddion a’i roi yn y rhewgell i’w fwyta ar adeg arall)
3 views0 comments