
#Bwyd
Chilli Tri Ffa
Updated: Oct 11, 2018
Paid a gneud y chilli ‘ma os oes gynno ti gynllunie i fynd ar ddêt neu mynd allan... ond fel arall cer amdani 😋

Chili Tri Ffa
Cynwysion (digon i 4 neu’n hawdd i rewi heb yr wŷ)
- Tin o Beans
- Tin o Kidney Beans
- Tin o Butter Beans
- Tin o Tomatos wedi eu torri
- Hanner pupur
- 1 Nionyn Coch
- Halen a Pupur
- 1 llwy de o Cumin
- 1 llwy de o Coriander
- 3 Wŷ
- Chydig o Gaws ar gyfer y top
- Nachos o unrhyw fath
Dull
1. Cynhesa y popty i 200oC. Mewn padell ffrio ffria nionyn i ddechrau wedyn ychwanega pupur tan eu bod wedi coginio.
2. Ychwanega y tri tin o ffa gwahanol i fewn i’r badell hefo’r tin tomato. Gad i’r gymysgedd ffrwtian ar dymheredd canolig ac ychwanega y sbeisys sydd eu hangen.
3. Pan yn barod torra yr wyau ar ben y gymysgedd a rho y badell yn y popty tan ma’r wyau wedi eu coginio. (Pan fydd yr wyau yn barod fydd yr wyau yn edrych yn wydrog [glazed]).
4. Tua munud cyn tynnu yr wyau allan o’r popty gwasgara ‘chydig o gaws ar y top.
5. Rho’r badell ar bwrdd i bawb gal rhannu a mwynhau 🍳😋🍅
Syniade gweini eraill fyse hefo reis neu bara naan hyd yn oed.