- #Bwyd
Chilli Con Carne
Sbeisia dy noson

Chilli Con Carne
2 clof o Arlleg
3 Nionyn
1 Pupur Coch
750g o Friwgig (Mince) Cig Eidion
300g o Facwn
2 din o Domatos
2 din o Ffa Ffrengig (Kidney Beans)
2 llwy bwdin o Biwrî Tomato
1 llwy bwdin o Siwgr
Halen a Phupur
2 giwb o stoc Cig Eidion
2 llwy de o Gumin
2 llwy de o Baprika
2 llwy de o Bowdr Chilli
Digon o Reis ar gyfer 4 i 5 o bobl
Guacamole
2 Afocado
1 Tomato
Sudd 1 Leim
Ychwanegiadau
Nachos
Caws wedi gratio
Hufen wedi suro
DULL
Torra’r garlleg a’r nionyn a’u rhoi mewn sosban fawr hefo ychydig o olew, a’i ffrio. Pan mae’r nionyn yn feddal ychwanega'r pupur.
Ar ôl i’r llysiau feddalu ychwanega'r briwgig a’r bacwn a’i adael i ffrio nes bod y cig wedi brownio.
Ychwanega'r tuniau tomato, ffa Ffrengig, piwrî, siwgr, stoc cig eidion, halen, pupur a’r sbeisys a sblash o ddŵr berwedig.
Gad i’r chilli fudferwi am o ddeutu 20 munud.
Tra ma’r chilli yn mudferwi dechra wneud y guacamole. Torra'r ddau afocado yn eu hanner a’u sgwpio allan. Stwnshia yr afocados yn fras mewn powlen hefo fforc.
Torra'r tomato yn fan nes ei fod yn bwlp a’i ychwanegu at y stwnsh afocado, yn ogystal â sudd un leim.
Berwa'r reis a’i adael i goginio am yr amser a nadir ar y paced.
Gweina popeth hefo’r caws, hufen wedi suro a’r nachos a mwynha!