- #Bwyd
Cacennau cri
Ma' nhw'n deud na'r ffordd i galon dyn ydy drwy ei stumog... fell ma'r cacennau cri yma yn berffaith ar gyfer Santes Dwynwen neu Sant Ffolant. Elli di newid y rysait i'w wnud yn fwy arbennig drwy ychwanegu oren a siocled, mafon a siocled gwyn..... ma'r opsiynau yn ddi-ddiwedd!

Cacenne Cri
- 16oz o Flawd Codi (454g)
- 8oz o Farjarîn (227g)
- 6oz o Siwgr Caster (170g)
- 4oz o Gyrins (Raisins) (113g) - opsiynol
- Pinsied o Halen
- 2 Wy
Dull
1. Dyro y blawd, margarîn, siwgr a halen mewn powlen gymysgu. Rhwbia y gymysgedd rhwng dy fysedd er mwyn creu briwsion.
2. Ychwanega y cyrins (os wyt ti isio) ar wyau I few i’r gymysgedd a’i gyfuno.
3. Rhowlia allan y gymysgedd bob yn dipyn a defnyddia dorrwr o unrw siap wyt ti awydd.
4. Rho y cacennau cri men padell ffrio hefo bach o fenyn ar dymheredd isel.
#Bwyd #SantesDwynwen #CacennauCri #Cariad #Calon
12 views0 comments