
#Bwyd
Cacennau Banana Duon a Caramel
Ddim bod angen esgus i gael cacen.. ond os oes gynno ti fanana's duon dyma’r ateb perffaith i ti
Cacennau Bach Banana a Caramel

Cynhwysion
225g (8oz) o Flawd Plaen
1 ¼ llwy de o Bowdr Pobi
¼ llwy de o Soda Bicarbonate
2 Banana Addfed (dechrau mynd yn ddu)
115g (4oz) o Fenyn meddal neu Marjarin
115g (4oz) o Siwgr Caster
½ llwy de o ‘Vanilla Extract’
2 Wŷ
½ tin o Garamel
115g (4oz) o Fenyn meddal, neu Marjarin
115g (4oz) Siwgr Eisin
Llwy bwdin o Garamel
Dull
Cynhesa y popty i 180oC ac estyna ‘tray’ sydd yn addas i goginio cacennau bach.
Cymysga menyn a siwgr hefo’u gilydd mewn powlen.
Mewn bowlen arwahan defnyddio fforcen i falu y ddau fanana.
Ychwanega Vanilla Extract ac un o’r wyau i fewn i’r gymysgedd cyn ychwanegu ychydig o flawd a gweddill yr wŷ.
Ychwanega y banana wedi ei falu i fewn i’r gymysgedd. Rhanna y gymysgedd i fewn i’r cwpeni cacennau (cupcake cases), o ddeutu dau lwy de swmpus ym mhob cwpan.
Rho y cacennau yn y popty am o ddeutu 20 munud, neu hyd nes eu bod nhw yn frown ac wedi coginio drwyddynt.
Ar ôl i’r cacennau oeri defnyddio syrinj i roi caramel yn nghanol y cacennau (neu defnyddio lwy bach i dynnu darn o’r spwng oddi yno a rhoi caramel yn y twll)
Cymysga y menyn a’r eisin siwgr mewn powlen ag ychydig o’r caramel er mwyn creu eisin i fynd ar dop y cacennau.
Rho’r eisin ar ben y cacennau - mwynha!