- #Bwyd
Cacen 'Smores' mewn Mwg
Rysait Bwyd Brys- Barod mewn 10 munud

Cynhwysion
- 1 llwy fawr o Flawd Codi
- 2 llwy fawr o Bowdr Coco
- Pinsied o Halen
- 3 llwy fawr o Lefrith
- 1 llwy fawr o Oel
- 1 Bisged ‘Digestive’
- Ychydig o Marshamallows Bach
- 3-4 Marshmallow Gwyn Mawr (ar gyfer y top)
- 1/4 Bisged Digestive wedi malu’n fan (ar gyfer y top)
Dull
1. Mewn powlen cymysga'r blawd, powdr coco, halen.
2. Ychwanega'r llefrith, oel a’i gymysgu cyn ychwanegu'r fisged.
3. Rho'r gymysgedd mewn mwg a’i roi yn y microdon am 30-50 eiliad, dibynnol ar gryder dy ficrodon (dechra ar 30 eiliad cyn ychwanegu 10 eiliad bob tro yn raddol fel nad ydy’r gacen yn sych).
4. Ychwanega'r marshmallows bach i ganol y gacen a’i roi yn y microdon am 20 eiliad.
5. Os wyt ti isio rhoi'r marshmallows ar y top - todda'r marshmallows gwyn yn y microdon am 15 eiliad, ei gymysgu a’i roi ar ben y gacen y syth gan ddefnyddio llwy.
6. Mala'r 1/4 bisged a’i roi ar ben y gacen.
7. Mwynha!!