
#Bwyd
Burger Cig Eidion
Y burger fwya EPIC fuodd erioed... os dwi'n deud yn hun!

Cynhwysion (Digon ar gyfer 2)
- 1 Nionyn Coch
- 1 ‘clove’ o Arlleg
- Halen a Papur
- 400g o ‘mince’ Cig Eidion
- 1 Wŷ
- 1 llwy de o Fwstard ‘Wholegrain’
- 160g o Flawd Codi
- 100ml o Ddŵr
- ‘Chydig o Rosmari
- 1 Taten Mawr
- 1 Taten Melys (Sweet Potato) bach
- ‘Chydig o Paprika
- Nionyn, Letys, Tomato a Coleslaw
Dull
1. Torra y daten a’r daten felys yn siap sglodion a’u rhoi mewn tin rhostio hefo halen, pupur, oel a paprika. Rhowch y tatws yn y popty ar dymheredd o 180oC am o ddeutu 40 munud.
2. Mewn powlen cymysga y cynhwysion i wneud y burgers sef y nionyn, garlleg, halen a pupur, y cig a’r mwstard. Cymysa’r cynhwysion a ffurfio burgers hefo’r gymysgedd. Ffria y burgers mewn padell ar dymheredd canolig tan fod y canol wedi eu coginio drwyddo.
3. I greu y ‘bara’ ar gyfer y burgers mae angen rhoi y blawd mewn powlen gymysgu gan ychwanegu y dŵr yn raddol. Wedi i’r gymysgedd gyfuno rho’r gymysgedd ar fwrdd a’i ymestyn ychydig. Torra’r gymysgedd yn 4 chwarter a ffurfio pedwar siap bara ‘pitta’, neu pedwar hirgrwn.
4. Ar ôl i’r burgers orffen coginio, a’u tynnu allan o’r badell, rho ychydig fwy o oel a chydig o rosmari yn y badell a ffrio y ‘bara’ am o ddeutu 3 munud ar bob ochr.
5. Tynna popeth i ffwrdd o’r gwres a’u cyfuno ar blat - mwynha!