
#Bwyd
Brecwast Llawn Mewn Un Dysgl
Bore lliwgar, er bod hi'n bwrw tu allan🌈🌧🌈🌧🌈🌧

Cynhwysion
- 6 Selsig
- 1 Nionyn Coch
- 1 Clof o Arlleg
- ‘Chydig o Fadarch
- 1 Tin o Bîns
- 1 Tin o Domatos wedi Torri
- 2 Wy
Dull
1. Cynhesa'r popty i 200oc, a rho'r selsig i mewn i ddysgl a’i roi yn y popty.
2. Ar ôl i’r selsig ddechrau brownio, torra'r nionyn a’r garlleg yn fan a’u hychwanegu yn y ddysgl.
3. Pan mae’r nionyn yn feddal ychwanega’r madarch wedi’u torri a’i roi yn ôl yn y popty.
4. Ar ôl i’r cynhwysion i gyd gael eu coginio ychwanega din o domatos a bîns - cymysga'r holl beth a’i roi yn ôl yn y popty am bum munud.
5. Cracia ddau wy ar ben y brecwast llawn a’i roi yn ôl yn y popty nes bod yr holl wyn wy wedi coginio.
6. Gweina a mwynha!
#Bwyd #BrecwastLlawn #UnDysgl #FullEnglishBreakfast #Mwynha #BwydMyfyrwyr