
#Bwyd
Brechdan Avocado a wy wedi ffrio
Updated: Oct 14, 2018

Brechdan Avocado ac Wy wedi ffrio
2 dafell o Fara
1 Wŷ
3 sleisen o Facwn
1/2 Avocado
Chydig o Lets
Gronynnau Garlleg
Gan ddefnyddio torrwr siap cylch gwna dwll yng nghanol un o’r tafelli o fara. Rho y dafell mewn padell ffrio hefo ‘chydig o oel. Cracia’r wŷ i ganol y twll yn y dafell o fara.
Ochr arall y badell rho y bacwn a’i goginio fel wyt ti’n ei hoffi.
Rho yr ail dafell o fara yn y tostiwr. Haena y bacwn, letys ac avocado (hefo ychydig o ronynnau garlleg ar ei dop) ar dop y tost.
Pan ma’r wŷ wedi coginio drwyddo gosoda popeth at ei gilydd er mwyn creu brechdan.