• #Bwyd

Avacado Ar Dost

Brecwast ydy pryd pwysicaf y dydd wedi'r cyfan...



Avacado, Kale a Wŷ ar Dôst

Cynhwysion

- Un tafell o fara

- 1/2 Avacado

- Gronynau Garlleg

- Halen a pupur

- 3 ‘Asparagus’

- Chydig o Kale

- Chydig o Broccoli

- 1 Wŷ

- Paprika


1. Rho’r ‘Asparagus’ a Kale mewn padell ffrio ar dymheredd canolig.


2. Torra yr avacado yn hanner a’i stwnsio gan ychwanegu garlleg a ‘chydig o halen a pupur.


3. Rho ddŵr berwedig mewn sosbon a cracio’r ŵy i fewn (Gosod amserydd am tua 2 funud). Ar yr un amser rho’r bara mewn toaster.


4. Gosod popeth ar blat hefo ‘chydig o paprika. 😋🍽


#Bwyd #BlueMonday #Avacado

5 views

CYSYLLTU

 

bwyd.cadi@gmail.com

 

©2023 by Gelato. Proudly created with Wix.com

TANYSGRIFIWCH I DDERBYN E-BYST A NEWYDDION DIWEDDARAF