Gwreiddiau #Bwyd
Cadi Mars Jones
Dwi wrth y modd hefo bwyd!
Yn wreiddiol o Ogledd Cymru dwi bellach yn fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn astudio 'Gwyddoniaeth a Thechnoleg Bwyd'. Dwi wastad wedi bod yn hoff iawn o goginio a thrio ryseitiau a bwydydd newydd - felly be well na rhannu'r ryseitiau yma? Daeth y cysyniad o ddechrau #Bwyd ar ôl dechrau yn y Brifysgol a deall nad oedd gan bawb y sgiliau neu'r gallu i greu prydau maethlon (weithie!) a blasus. Felly dyna pan yn bennaf mae'r ryseitiau wedi eu hanelu tuag at fyfyrwyr - ond ma' groeso i unrhyw un eu trio! Roedd creu deunydd hefyd sydd yn addas i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig i mi oherwydd mae ryseitiau hawdd, dealladwy a syml eu hiaith yn hanfodol at ddyfodol y Gymraeg fel iaith fyw.
Cadi Mars Jones
xoxo

Datblygiadau
Oes gennyt ti syniadau da?
Os oes gennyt ti syniadau am ryseitiau fase ti'n hoffi eu gweld, neu rannu rysáit da, croeso i ti rannu. Dwi'n dechrau meddwl am ddatblygiadau cyffrous ar gyfer #Bwyd... a dwi'n edrych ymlaen at gael rhannu nhw hefo chi.
